Offerynnau Statudol sydd ag Adroddiadau Clir

14 Chwefror 2022

SL(6)149 – Rheoliadau Wyau (Cymru) 2022

Gweithdrefn: Cadarnhaol

Gwneir y Rheoliadau hyn o dan adran 50(3) o Ddeddf Amaethyddiaeth 2020 a pharagraff 16(1) o Atodlen 5 iddi.

Mae'r Rheoliadau'n diwygio cyfraith yr UE a ddargedwir, yn benodol Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 589/2008 (“y Rheoliad a Ddargedwir”), sy’n gwneud darpariaeth o ran safonau marchnata ar gyfer wyau. Mae'r Rheoliadau yn caniatáu i wiriadau safonau marchnata barhau i gael eu cynnal ar wyau Dosbarth A a fewnforiwyd mewn safle ar ben y daith. Safleoedd ar ben y daith yw lleoliadau megis canolfannau pecynnu wyau a mangreoedd cyfanwerthwyr, lle cynhelir gwiriadau gan arolygwyr marchnata wyau'r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA), cyn rhyddhau’r  wyau i'w gwerthu mewn siopau neu i’w defnyddio gan arlwywyr mawr.

Mae'r diwygiad a wneir gan y Rheoliadau hyn yn ofynnol oherwydd, o dan y Rheoliad a Ddargedwir, mae’n ofynnol i wiriadau safonau marchnata gael eu cynnal mewn Safleoedd Rheoli Ffiniau cyn cliriad tollau o 1 Gorffennaf 2022. Gan fod arolygwyr a gweithdrefnau gorfodi sy’n cydymffurfio â’r gofynion hyn yn bodoli eisoes, o dan y drefn bresennol, mewn safleoedd ar ben y daith (y canolfannau pecynnu a mangreoedd cyfanwerthwyr lle caiff wyau eu gwirio cyn eu rhyddhau i'w gwerthu), mae'r Memorandwm Esboniadol i'r Rheoliadau yn nodi y byddai’n fwy effeithlon ac ymarferol parhau â'r gwiriadau yn y lleoliadau hyn. Drwy barhau i gynnal gwiriadau marchnata wyau mewn safleoedd ar ben y daith, megis canolfannau pecynnu wyau a mangreoedd cyfanwerthwyr yn hytrach na’r pwynt mynediad, bydd modd cynnal y gwiriadau hyn gan ddefnyddio’r adnoddau sefydledig sy’n bodoli eisoes cyn i'r wyau gyrraedd y farchnad.

Rhiant-Ddeddf: Ddeddf Amaethyddiaeth 2020

Fe’u gwnaed ar:

Fe’u gosodwyd ar:

Yn dod i rym ar: 04 Mawrth 2022